2011 Rhif 1947 (Cy. 213)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau  Asesu wrth Dderbyn i’r Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

O dan adran 108(2)(b)(iii) o Ddeddf Addysg 2002 caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, bennu pa bynnag drefniadau asesu yr ystyriant yn briodol ar gyfer y cyfnod sylfaen. Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu’r trefniadau hynny. Daw darpariaethau’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2011 ar gyfer y disgyblion hynny yr addysgir y cyfnod sylfaen iddynt mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, ac ar 1 Medi 2012 ar gyfer yr holl ddisgyblion eraill yr addysgir y cyfnod sylfaen iddynt mewn lleoliad cyfnod sylfaen gwahanol (erthygl 2).

Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu bod rhaid i asesiad cyfnod sylfaen gael ei gynnal gan addysgwr mewn perthynas â phob disgybl yn y cyfnod sylfaen, ac eithrio disgybl sydd wedi ei asesu yn unol â Rheoliadau Addysg (Asesu Sylfaenol) (Cymru) 1999. Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu’r diben o gynnal asesiadau o’r fath (erthygl 3) ac yn gosod y terfynau amser ar gyfer cynnal yr asesiadau (erthygl 4).

Mae’r Gorchymyn hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth sy’n rhoi effaith i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, neu’n ychwanegu atynt rywfodd arall (erthygl 5).

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn pennu dyletswyddau perchennog lleoliad cyfnod sylfaen (erthygl 6 a’r Atodlen), dyletswyddau’r person cyfrifol (erthygl 7 a’r Atodlen) a dyletswyddau awdurdodau lleol perthnasol (erthygl 8 a’r Atodlen) mewn perthynas â’r trefniadau asesu.


2011 Rhif 1947 (Cy. 213)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau  Asesu wrth Dderbyn i’r Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2011

Gwnaed                           29 Gorffennaf 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       4 Awst 2011

Yn dod i rym                 yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 108(2)(b)(iii), (5), (6), (9) ac (11) a 210 o Ddeddf Addysg 2002([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1.(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau  Asesu wrth Dderbyn i’r Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2011.

(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar—

(a)     1 Medi 2011 ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru ac ysgolion meithrin a gynhelir yng Nghymru; a

(b)     1 Medi 2012 ar gyfer sefydliadau yng Nghymru lle y darperir addysg feithrin o dan y trefniadau a grybwyllir yn adran 98(2)(b) o Ddeddf 2002 ac yr addysgir y cyfnod sylfaen.

Dehongli

2. Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “addysgwr” (“practitioner”) yw unrhyw berson sy’n addysgu’r cyfnod sylfaen mewn lleoliad cyfnod sylfaen;

ystyr “asesiad cyfnod sylfaen” (“foundation phase assessment”) yw asesiad o gyrhaeddiad disgybl gan addysgwr ar sail arsylwi gan yr addysgwr, gan gynnwys asesiad o lefel cyrhaeddiad y plentyn mewn perthynas â’r meysydd datblygiadol;

ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw’r awdurdod lleol yng Nghymru y cynhelir neu yr ariennir lleoliad cyfnod sylfaen ganddo;

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc o fewn yr ystyr a roddir i “bank holiday” gan adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971([3]);

ystyr “y ddogfen asesu” (“the assessment document”) yw’r ddogfen “Proffil asesu datblygiad plentyn Cyfnod Sylfaen: Ffurflen gofnodi” a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym Mai 2011;

ystyr “y ddogfen proffil” (“the profile document”) yw’r ddogfen “Proffil asesu datblygiad plentyn Cyfnod Sylfaen”([4]) a gyhoeddwyd gan Weinidogion  Cymru ym Mai 2011;

ystyr “lleoliad cyfnod sylfaen” (“foundation phase setting”) yw ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu sefydliad lle y darperir addysg feithrin o dan y trefniadau a grybwyllir yn adran 98(2)(b) o Ddeddf 2002 ac yr addysgir y cyfnod sylfaen;

ystyr “meysydd datblygiadol” (“developmental areas”) yw’r meysydd datblygiadol canlynol a bennir yn y ddogfen proffil—

                           (i)    personol, cymdeithasol ac emosiynol;

                         (ii)    siarad a gwrando;

                       (iii)    darllen ac ysgrifennu;

                        (iv)    didoli, trefnu a rhifo;

                          (v)    ymagwedd at ddysgu, meddwl a rhesymu; a

                        (vi)    corfforol;

ystyr “perchennog”(“proprietor”) yw—

(a)     pan fo’r lleoliad cyfnod sylfaen yn ysgol a gynhelir neu’n ysgol feithrin a gynhelir, corff llywodraethu’r ysgol honno; a

(b)     mewn perthynas ag unrhyw leoliad cyfnod sylfaen arall, y person neu gorff sy’n gyfrifol am reoli’r lleoliad cyfnod sylfaen;

ystyr “person cyfrifol” (“responsible person”) yw pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, neu’r person sy’n gyfrifol am ddarparu addysg feithrin mewn lleoliad cyfnod sylfaen o dan y trefniadau a grybwyllir yn adran 98(2)(b) o Ddeddf 2002; ac

ystyr “rhif unigryw’r disgybl” (“unique pupil number”) yw cyfuniad o rifau a ddyrennir i ddisgybl drwy ddefnyddio fformiwla a bennir gan Weinidogion Cymru, ac sy’n benodol i’r disgybl hwnnw.

Asesiad cyfnod sylfaen

3.(1) Rhaid i’r person cyfrifol wneud trefniadau ar gyfer cynnal asesiad cyfnod sylfaen gan addysgwr, mewn perthynas â phob disgybl yn y cyfnod sylfaen (yn ddarostyngedig i baragraff (2)).

(2) Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys mewn perthynas â disgybl sydd wedi ei asesu yn unol â Rheoliadau Addysg (Asesu Sylfaenol) (Cymru) 1999([5]).

(3) Diben yr asesu yw canfod lefel cyrhaeddiad y disgybl mewn perthynas â phob un o’r meysydd datblygiadol.

(4) Rhaid i ganlyniadau’r asesiad gael eu cofnodi gan yr addysgwr mewn dogfen asesu a chofnod cyrhaeddiad.

(5) Rhaid i’r cofnod cyrhaeddiad gynnwys canlyniadau’r asesiad cyfnod sylfaen ynghyd â datganiad cryno, gan yr addysgwr, o lefel cyrhaeddiad y disgybl mewn perthynas â’r meysydd datblygiadol.

Amseru’r asesu

4.(1) Os yw disgybl wedi ei dderbyn i’r cyfnod sylfaen wedi i’r Gorchymyn hwn ddod i rym, rhaid cwblhau’r asesiad cyfnod sylfaen—

(a)     cyn diwedd y cyfnod o 30 diwrnod gwaith wedi i’r disgybl gael ei dderbyn gyntaf i’r cyfnod sylfaen; neu

(b)     cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol os, yn eithriadol ac am resymau y tu hwnt i reolaeth y person cyfrifol, na ellir cwblhau’r asesiad o fewn y cyfnod a ddiffinnir yn is-baragraff (a).

(2) Os oedd disgybl wedi ei dderbyn gyntaf i’r cyfnod sylfaen cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym, rhaid cwblhau’r asesiad cyfnod sylfaen ar gyfer y disgybl hwnnw cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Pwerau atodol Gweinidogion Cymru

5. Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw ddarpariaeth sy’n rhoi effaith lawn i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn neu’n ychwanegu atynt rywfodd arall (ac eithrio darpariaeth sy’n rhoi neu’n gosod swyddogaethau fel a grybwyllir yn adran 108(6) o Ddeddf 2002) ac sy’n ymddangos  yn hwylus iddynt.

Dyletswyddau’r perchennog

6. Mae gan berchennog lleoliad cyfnod sylfaen y dyletswyddau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

Dyletswyddau personau cyfrifol

7. Mae gan berson cyfrifol lleoliad cyfnod sylfaen y dyletswyddau a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

Dyletswyddau awdurdodau lleol perthnasol

8. Mae gan bob awdurdod lleol perthnasol y dyletswyddau a bennir yn Rhan 3 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

 

                             

Leighton Andrews

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.

 

29 Gorffennaf 2011

 


YR ATODLEN

Erthyglau 6, 7 ac 8

Dyletswyddau mewn perthynas ag asesiadau

Rhan 1

Dyletswyddau perchnogion

1. I’r graddau y  rhoddir dyletswyddau i’r person cyfrifol, neu y’u gosodir arno, mewn perthynas ag asesiadau a gyflawnir yn unol ag erthyglau 3 a 4, rhaid i’r perchennog arfer swyddogaethau’r person hwnnw yn gyffredinol gyda golwg ar sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw ofynion a osodir ar y person cyfrifol gan y Gorchymyn hwn.

Rhan 2

Dyletswyddau personau cyfrifol

2. Rhaid i’r person cyfrifol ddarparu i riant pob disgybl y cwblhawyd asesiad cyfnod sylfaen mewn perthynas ag ef yn y lleoliad cyfnod sylfaen hwnnw—

(a)     copi o’r cofnod cyrhaeddiad; a

(b)     os gofynnir amdano gan y rhiant, copi o’r ddogfen asesu.

3. Rhaid i’r person cyfrifol hysbysu’r awdurdod lleol perthnasol, mewn ysgrifen—

(a)     ynglŷn â phob disgybl yn y lleoliad cyfnod sylfaen a asesir yn unol ag erthyglau 3 a 4, bod yr asesiad cyfnod sylfaen wedi ei gynnal, a chanlyniadau’r asesiad hwnnw; a

(b)     ynglŷn â phob disgybl yn y lleoliad cyfnod sylfaen na chynhaliwyd asesiad cyfnod sylfaen ohono yn unol ag erthyglau 3 a 4, na chynhaliwyd yr asesiad a’r rheswm pam na wnaed hynny.

4.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo disgybl a aseswyd yn unol ag erthyglau 3 a 4 yn peidio â mynychu un lleoliad cyfnod sylfaen (“yr hen leoliad cyfnod sylfaen”) ac yn dechrau mynychu lleoliad cyfnod sylfaen arall (“y lleoliad cyfnod sylfaen newydd”).

(2) Rhaid i berson cyfrifol y lleoliad cyfnod sylfaen newydd hysbysu person cyfrifol yr hen leoliad cyfnod sylfaen fod y disgybl wedi peidio â mynychu’r hen leoliad cyfnod sylfaen, a rhoi cyfeiriad y lleoliad cyfnod sylfaen newydd.

(3) Pan gaiff yr hysbysiad, rhaid i berson cyfrifol yr hen leoliad cyfnod sylfaen hysbysu person cyfrifol y lleoliad cyfnod sylfaen newydd o’r materion canlynol, mewn ysgrifen—

(a)     canlyniadau unrhyw asesiad cyfnod sylfaen a gyflawnwyd mewn perthynas â’r disgybl yn yr hen leoliad cyfnod sylfaen yn unol ag erthyglau 3 a 4; neu

(b)     os na chynhaliwyd unrhyw asesiad cyfnod sylfaen mewn perthynas â’r disgybl yn yr hen leoliad cyfnod sylfaen yn unol â’r erthyglau hynny, y rheswm pam na chynhaliwyd asesiad o’r fath.

5.(1) Rhaid i hysbysiad sy’n ofynnol gan baragraff 3 gael ei roi ddim hwyrach na 10 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y cyflawnir yr asesiad sy’n ofynnol gan erthyglau 3 a 4.

(2) Rhaid i hysbysiad sy’n ofynnol gan baragraff 4(2) gael ei roi ddim hwyrach na 15 diwrnod gwaith wedi i’r disgybl ddechrau mynychu’r lleoliad cyfnod sylfaen newydd.

(3) Rhaid i hysbysiad sy’n ofynnol gan baragraff 4(3) gael ei roi ddim hwyrach na 15 diwrnod gwaith ar ôl cael hysbysiad gan y lleoliad cyfnod sylfaen newydd.

(4) Rhaid i unrhyw hysbysiad nas rhoddir yn unol â’r gofynion perthnasol yn is-baragraffau (1), (2) neu (3) gael ei roi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedyn.

6. Rhaid i hysbysiad sy’n ofynnol gan baragraff 3(a) neu gan baragraff 4(3)(a) gynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â’r asesiad y mae’n ymwneud ag ef—

(a)     enw a chyfeiriad y lleoliad cyfnod sylfaen; a

(b)     rhif yr ysgol (pan fo’n gymwys).

7. Rhaid i hysbysiad sy’n ofynnol gan baragraff 3(a) neu baragraff 4(3)(a) gynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â’r disgybl y mae’n ymwneud ag ef—

(a)     ei enw cyntaf;

(b)     ei enw(au) pellach (os yn gymwys);

(c)     ei gyfenw;

(ch) rhif unigryw’r disgybl (os yw’n hysbys);

(d)     ei ryw;

(dd) ei ddyddiad geni;

(e)     mis a blwyddyn yr asesiad;

(f)      canlyniadau’r asesiad cyfnod sylfaen a gynhaliwyd yn unol ag erthygl 3 a 4 ym mhob un o’r meysydd datblygiadol (ond rhaid i’r cyfryw wybodaeth beidio â chynnwys copi o’r ddogfen asesu); ac

(ff) y dyddiad y derbyniwyd y disgybl gyntaf i’r cyfnod sylfaen.

8.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan yw’n ofynnol bod person cyfrifol yn rhoi hysbysiad o dan baragraff 3(b) neu baragraff 4(3)(b), nad oes asesiad cyfnod sylfaen wedi ei gynnal mewn perthynas â disgybl.

(2) Os hysbyswyd y person cyfrifol fod asesiad cyfnod sylfaen wedi ei gynnal mewn perthynas â disgybl mewn lleoliad cyfnod sylfaen blaenorol, rhaid i’r person cyfrifol gynnwys copi o’r hysbysiad cynharach hwnnw, ac eithrio pan fo is-baragraff (3) yn gymwys .

(3) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys yn unig—

(a)     os yw’r hysbysiad yn ofynnol gan is-baragraff 3(b), a

(b)     os yw’r lleoliad cyfnod sylfaen y mae’r  hysbysiad yn ofynnol ar ei gyfer, a’r lleoliad cyfnod sylfaen blaenorol ar yr adeg yr  aseswyd y disgybl, yn lleoliad cyfnod sylfaen a gâi ei gynnal neu ei ariannu gan yr un awdurdod lleol.

9.(1) Rhaid i’r person cyfrifol gynnig cyfle rhesymol i riant disgybl, y cynhaliwyd asesiad mewn perthynas ag ef yn y lleoliad cyfnod sylfaen, drafod canlyniadau’r asesiad gydag addysgwr yn y lleoliad cyfnod sylfaen.

(2) Rhaid gwneud y cynnig cyn diwedd y tymor ysgol y cynhaliwyd yr asesiad cyfnod sylfaen ynddo, a rhaid i’r person cyfrifol sicrhau bod unrhyw drafodaeth a gynhelir o ganlyniad yn digwydd yn ystod y tymor hwnnw neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y tymor hwnnw.

Rhan 3

Dyletswyddau awdurdodau lleol perthnasol

10. Rhaid i bob awdurdod lleol perthnasol gael a chadw’r hysbysiadau a roddir iddynt o dan Rannau 1 a 2 o’r Atodlen hon.

11. O fewn 14 diwrnod gwaith ar ôl cael cais ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru, rhaid i awdurdod lleol perthnasol ddarparu i Weinidogion Cymru, ar ffurf y gellir ei darllen gan beiriant, drwy wefan rhyngrwyd ddiogel a ddarperir at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru, y cyfryw rai o’r hysbysiadau  a roddwyd iddo o dan Rannau 1 a 2 o’r Atodlen hon ag y gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.



([1])           2002 p.32. Diwygiwyd is-adran (2) o adran 108 gan adran 21(1) a (7)(a) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 5). Diwygiwyd is-adran (6) o adran 108 gan O.S. 2010/1158 ac is-adran (11) gan baragraffau 11 i 13 o’r Atodlen i Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1).

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

([3])           1971 p.80.

([4])           Rhifau ISBN 978 0 7504 6158 0 a 978 0 7504 6159 7.

([5])           O.S. 1999/1188 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2010/1142 (Cy.101).